Telerau ac Amodau

Gwefan Cyngor Tref Nefyn yw Nefyn.Cymru, ac mae yn cael eu rheoli gan Cyngor Tref Nefyn, y cyfeirir ati wedi hyn fel ‘Ni’. Wrth ddod i mewn i’n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau.
Mae gwefan Cyngor Tref Nefyn a’i gwefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal at eich defnydd personol chi ac er mwyn i chi eu darllen. Drwy ddod i mewn i’r wefan hon a’i defnyddio, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn a fydd mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.

Eiddo deallusol

Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu deunydd unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.

Hypergysylltu

Hypergysylltu â Nefyn.Cymru.  Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau’r wefan hon. Nid oes gennym wrthwynebiad i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth ar ein gwefan. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai ein tudalennau yn cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. Dylai tudalennau Cyngor Tref Nefyn gael eu llwytho i mewn i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle.

Cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau

Er mwyn ichi allu defnyddio rhai o’r gwasanaethau sydd ar wefan Cyngor Tref Nefyn, mae’n rhaid i chi gofrestru (yn bennaf ar gyfer derbyn cylchlythyrau ar ffurf e-byst a ffurflen cyswllt). Yn ystod y broses gofrestru, byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol fel ein bod yn gallu gwerthuso’r offer rhyngweithiol a ddefnyddiwn ac er mwyn sicrhau bod yr ymatebion a dderbyniwn yn rhai dilys.  Mae peth o’r wybodaeth sy’n rhaid i chi ei ddarparu’n orfodol, fel eich enw a cyfeiriad e-bost dilys.  Ni allwch gofrestru’n ddienw. Mae’n bosibl i’ch enw defnyddiwr fod yn anhysbys ond mae’n rhaid i bob cyfrif sy’n cael ei gofrestru gynnwys eich enw a chyfeiriad e-bost dilys. Peidiwch â chofrestru gan ddefnyddio enw rhywun arall.

Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir wrth ichi gofrestru’n wirfoddol er mwyn defnyddio gwasanaethau rhyngweithiol Cyngor Tref Nefyn ei ddefnyddio er mwyn ichi gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i’n galluogi i gysylltu â chi ynghylch â diweddariadau i’r gwasanaethau hynny’n unig.  Mae’r holl fanylion a gyflwynir yn gwbl gyfrinachol ac nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol i unrhyw un arall.

O’r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Nid yw cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio’r gwefannau hyn.

Ymwadiad

Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau gwefan Cyngor Tref Nefyn (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o wefan Cyngor Tref Nefyn.

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Diweddarwyd 17 Ionawr 2015